Mae MRC Rhyngwladol yn gweithio ar draws pob diwydiant ac ar bob lefel, gan recriwtio o lefel cyfarwyddwyr hyd at y linell gynnyrch, ond nid ydym yn credu bod ‘un esgid yn ffitio pawb’, a dyna pham fod gennym dîm o arbenigwyr yn cynnig ystod eang o wybodaeth arbenigol yng ngwasanaethau diwydiannol a masnachol, yn ogystal â meddu hefyd ar gilfach yn sectorau’r gwasanaethau proffesiynol.
Yr ydym yn ymwybodol bod ein syniad o recriwtio’r bobl addas i waith penodol yn gweithio’n llwyddiannus. Pam? Am eu bod yn ein hargyhoeddi gyda chydnabyddiaeth ardderchog. Barnwch dros eich hunain y dylanwad y mae gan ein hymgeiswyr ar fusnesau ein cwsmeriaid.
Yr ydym yn ymroi i’ch helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa, boed hynny yn swydd dros dro neu’n un barhaol mewn unrhyw faes, ac rydym yn ymroi i ddarparu Recriwtio Eich Ffordd Chi. Bydd ein ymgynghorwyr cyfeillgar yn eich cynorthwyo drwy’r holl broses, a byddant yn defnyddio eu cysylltiadau eang i’ch helpu i gael y swydd berffaith.
Os byddwch yn cofrestru gyda MRC Rhyngwladol byddwn bob amser yn darparu cymaint o wybodaeth â phosib i’ch helpu i benderfynu os yw swydd yn addas ar eich cyfer; byddwn yn agored a gonest, gan baratoi adborth adeiladol ichi.